P-06-1285 Codi’r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored ar unwaith

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ryan Jewell, ar ôl casglu cyfanswm o 5,143 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Ar 21 Rhagfyr 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad unwaith eto i wahardd pobl rhag mynd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored. Nid yn unig y bydd hyn yn cael effaith negyddol ar lesiant meddyliol miloedd o bobl, bydd hefyd yn dinistrio clybiau chwaraeon ym mhob rhan o’r wlad sydd â rôl mor hanfodol yn eu cymunedau. Defnyddiwch eich llais democrataidd a dangoswch i’r rhai sydd mewn grym eich bod yn gwrthwynebu’r cyfyngiadau hyn, a fydd yn gwneud mwy o niwed nag o les.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Islwyn

·         Dwyrain De Cymru